Sut i gyrraedd
Prif ganolfan MAY YOU LIVE IN INTERESTING TIMES fydd Chapter, Caerdydd.
Mae canolfan Chapter wedi’i lleoli yn Nhreganna, y tu ôl i Heol Ddwyreiniol y Bontfaen, rhwng Heol Llandaf a Heol y Farchnad. Mae cyrraedd y ganolfan o ganol y ddinas yn hawdd ac fe ellir parcio’n hwylus ym maes parcio Chapter tua chefn yr adeilad. Mae bysus rhif 17, 18 + 31 yn gadael bob 5 munud o Orsaf Caerdydd ac maent yn aros rhyw ganllath o’r ganolfan. Ffoniwch +44 (0) 2920 311 059 am fwy o fanylion. Ewch i www.chapter.org i weld map.
Ar yr Heol:
Os ydych chi’n dod ar yr M4 o’r dwyrain (Llundain): Ewch oddi ar yr M4 wrth gyffordd 29 a dilynwch yr arwyddion i’r A48 (M). Daliwch i ddiyn yr A48 gan basio Porth Caerdydd, Pentwyn, Dwyrain Caerdydd/Y Dociau a Chanol Caerdydd. Ymhellach ar hyd yr A48, fe ddewch at archfarchnad TESCO Extra ar y chwith a Choleg Prifysgol Cymru (Llandaf) ar yr ochr dde. Trowch i’r chwith oddi ar yr A48, gan ddilyn yr arwydd sydd yn cyfeirio at Landaf/Llantrisant. Wrth y goleuadau traffig ewch i’r chwith. Wrth y set nesaf o oleuadau y dewch chi iddyn nhw fe fydd angen i chi fod yn y lôn dde, ac o’r fan honno ewch yn syth ymlaen i Heol Llandâf. Ymhen rhyw bedwar canllath fe ddewch at set arall o oleuadau traffig, ewch yn eich blaen yn syth, ac yna cymrwch yr ail droad i’r dde, i Heol y Farchnad. Mae Tafarn y Butchers Arms ar gornel yr heol, ac ymhen hanner canllath fe welwch chi Chapter ar y dde. Mae cyfleusterau Parcio i’r Anabl o flaen yr adeilad, a maes parcio cyhoeddus i’w gael yn y cefn.
Os ydych chi’n dod ar yr M4 o’r Gorllewin (Abertawe): Ewch oddi ar yr M4 wrth gyffordd 33 a dilynwch yr arwyddion ar gyfer Penarth/Y Barri, gan basio Sain Ffagan (Amgueddfa Werin Cymru), Trelai/Gorllewin Caerdydd, a gadael y ffordd ddeuol wrth gyffordd Leckwith/Stadiwm Athletau. Cymrwch y troad cyntaf i’r chwith wrth y cylchdro gan basio’r stadiwm athletau ar y dde; ewch yn syth ymlaen trwy ddwy set o oleuadau traffig. Wrth y trydydd set o oleuadau ewch yn syth ymlaen trwy’r gyffordd heibio i dafarn y Corporation ar yr ochr chwith. Cymrwch y troad nesaf i’r chwith gan droi i mewn i Heol y Farchnad. Mae Tafarn y Butchers Arms ar gornel yr heol, ac ymhen hanner canllath fe welwch chi Chapter ar y dde. Mae cyfleusterau Parcio i’r Anabl o flaen yr adeilad, a maes parcio cyhoeddus i’w gael yn y cefn.
Trenau:
Mae Caerdydd:
2 awr o Lundain; 1 awr 30 munud o Birmingham; 50 munud o Fryste
Ffoniwch 0845 6040500 i gael amseroedd trenau a theithiau cyswllt i Gaerdydd.
Hedfan:
Gwasanaethir Caerdydd gan Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd: www.cardiffairportonline.com/en/.