Ynglyn â'r Wyl
Yr Wyl
Mae pob gwyl May You Live in Interesting Times yn canolbwyntio ar thema benodol. Thema eleni yw DIY ('do-it-yourself'). Â thechnoleg erbyn hyn yn rhan ganolog o fywyd bob dydd, r'yn ni wedi trefnu rhaglen o ddigwyddiadau fydd yn edrych ar y modd y mae defnyddwyr a'r syniad o gyfrannu yn gyrru cynnwys digidol. Mae technoleg boblogaidd wedi galluogi unigolion a chymunedau i gysylltu â'i gilydd a rhannu gwybodaeth. Mae hyn wedi arwain at ffyrdd newydd o weithio – dulliau mwy agored a ffyrdd newydd o rannu a datrys problemau. Mae hyn, fel y gwelsom wrth fynd ati i roi'r rhaglen at ei gilydd, wedi arwain at brosiectau a syniadau diddorol sydd yn werth eu rhannu.
 thechnolegwyr creadigol yn arwain y ffordd o ran datblygu systemau cod agored a chynhyrchion sydd ar gael i bob un, gall unigolion a grwpiau bychain weithio gyda'i gilydd ar 'ddatblygu gwybodaeth ar y cyd’. Yn rhaglen yr wyl mae yna arddangosfeydd sydd yn mynd i'r afael a phroblemau lleol trwy gyfrwng rhwydweithiau byd-eang - Ghana ThinkTank - a digwyddiadau sydd yn agor caead y broses gomisiynu - The People Speaks, Who Wants to Be…?. Mae yna lawer o ddigwyddiadau lle gall pobl rannu'u syniadau. R'yn ni'n falch iawn o allu cynnal y Maker Faire cyntaf yng Nghymru ac mae unConference yn gofyn i'r rheiny fydd yn cymryd rhan arwain trafodaethau am dechnoleg. Byddwn hefyd yn cynnal cyfres o weithdai.
Pwy sy'n cymryd rhan?
Eleni, fel yn 2005, r'yn ni'n gweithio gyda detholiad eang o artistiaid, arloeswyr, entrepreneurs cymdeithasol ac arbenigwyr diwydiannol er mwyn cyflwyno rhaglen amrywiol. Mae'r wyl ar agor i bawb ac, yn rhinwedd y ffaith bod yna amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, r'yn ni'n disgwyl amrywiaeth eang o ymwelwyr a chyfranwyr.
Pwy sy'n cefnogi?
May You Live in Interesting Times, Festival of Creative Technology is a partnership between bloc: Creative Technology Wales and Chapter. The 2009 Festival programme has been developed in collaboration with the British Council, Ffotogallery, Safle and Wales Arts International.
The Festival has been further supported by the following: @Wales, Academi, Arts Council of Wales, Cardiff and Co, Cardiff Design Festival, Cyfle, ELFEN, G39/WARP, iShed, Maker Faire, National Museum Wales, National Theatre Wales, University of Glamorgan, University of Wales, Newport, Unltd, Wales Innovators Network, Welsh Assembly Government and 4iP.
Micro Maker Faire Wales has been produced in cooperation with Maker Faire.